Sibrwd

Diwrnod Sibrwd – Y Llwyfan

Ysgrifennwyd gan yn cyfarfodydd

Ro’n i’n teimlo bod angen tynnu Galactig a holl dîm Theatr Gen at ei gilydd er mwyn trafod y prosiect ac felly trefnwyd diwrnod Sibrwd yn Y Llwyfan. Roedd cydweithwyr wedi clywed am y prosiect ond roedd angen trafod sut fyddai Sibrwd yn cael ei weithredu. Yn ychwnaegol at staff Theatr Gen roeddwn hefyd wedi gwahodd Dyfan Jones, cyfansoddwr a chynllunydd sain profiadol wnaeth gynllunio sain Blodeuwedd. Roedd y sgwrs yma’n un bwysig gan bod Galactig yn wneuthurwyr platfformau digidol profiadol a ninnau yn wneuthurwyr theatr llwyddiannus ond roedd angen…darllen mwy

Y Cais a’r Camau Cyntaf

Ysgrifennwyd gan yn cyfarfodydd

Erbyn i mi ddod yn ôl o fy ngwyliau ddechrau mis Medi roedd Arwel a Lowri wedi bod yn trafod y syniad ymhellach gyda Galactig ac roedd pethau’n symud ymlaen ar gyflymder. Yn dilyn sgyrsiau Skype, crëodd Derick ddogfen glir oedd yn amlinellu holl bosibiliadau’r platfform a cynigodd Arwel yr enw ‘Sibrwd’. Es i ati i ymchwilio amcanion a bwriadau y rhai oedd yn ariannu’r gronfa sef NESTA, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau, er mwyn trosglwyddo’r hyn a wyddom am y tri yn rhan o…darllen mwy

0

Steddfod Genedlaethol Awst 2013

Ysgrifennwyd gan yn cyfarfodydd

Yn ystod Gorffennaf daeth ebost am gronfa newydd i ariannu ymchwil ‘syniad’ digidol er mwyn hybu cynulleidfa neu ar gyfer pwrpasau busnes. Bu tipyn o grafu pen yn swyddfa Theatr Gen ynglŷn â beth allwn ni ei gynnig fel syniad ar gyfer y gronfa. Penderfynwyd trefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid digidol posibl yn yr Eisteddfod. Hefyd ar bnawn braf yn yr Eisteddfod yn Ninbych, cafodd Arwel, Lowri a fi gyfarfod gyda Rob Ashelford – Rheolwr Rhaglen Cronfa Ymchwil a Datblygu Digidol Celfyddydau Cymru – er mwyn deall ychydig mwy am y…darllen mwy

0