Y Cais a’r Camau Cyntaf
Erbyn i mi ddod yn ôl o fy ngwyliau ddechrau mis Medi roedd Arwel a Lowri wedi bod yn trafod y syniad ymhellach gyda Galactig ac roedd pethau’n symud ymlaen ar gyflymder. Yn dilyn sgyrsiau Skype, crëodd Derick ddogfen glir oedd yn amlinellu holl bosibiliadau’r platfform a cynigodd Arwel yr enw ‘Sibrwd’. Es i ati i ymchwilio amcanion a bwriadau y rhai oedd yn ariannu’r gronfa sef NESTA, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau, er mwyn trosglwyddo’r hyn a wyddom am y tri yn rhan o atebion y ffurflen gais. Roedd ein syniad mor syml bron roedd yn anodd credu nad oedd rhywun arall wedi meddwl amdano. Y peth olaf o’n i ishe oedd bod ein syniad arloesol eisoes ar waith! Soniodd Rob Ashelford bod gan National Theatre of Scotland brosiect gweddol debyg oedd yn ymwneud â mynediad i gelfyddyd, ond ar gyfer rhai ag anableddau yn hytrach nag oherwydd iaith. Roedd cydweithio gydag eraill sydd yn rhan o gynlluniau datblygu wedi eu hariannu fel rhan o’r rhaglen hon yn cael ei dderbyn fel cryfder wrth ymgeisio am y nawdd. Penderfwyd felly y byddem yn gwneud pob ymdrech i gyd-weithio gyda NTS ac i ddysgu o’r naill a’r llall a rhannu profiad. Ymlaen felly i lenwi’r cais. Ar ôl wythnos gyfan o ‘sgwennu ac ail ‘sgwennu, anfonwyd y cais gydag ychydig o funudau i sbario, a dechrau aros am ateb. Trafodwyd petawn ni’n aflwyddiannus y byddai modd ceisio eto ym mis Ionawr ac edrych am gronfeydd ariannu eraill. Roedd Sibrwd yn syniad rhy dda i’w anghofio.
Erbyn diwedd mis Medi cawsom wybod ein bod wedi bod cyrraedd rhestr fer ac wedi ein gwahodd i gyfweliad. Derbyniais yr ebost tra ar gwrs yn Chapter ac o’n i ar fin gweiddi mas yn uchel! Danfonais y neges ymlaen at bawb, a ffonio Mam wrth gwrs. Buom am ddiwrnod cyfan yn paratoi ar gyfer y cyfweliad gyda’n gilydd yn Y Llwyfan gan drafod pwy oedd yn mynd i gyflwyno pa elfen o’r cyflwyniad 10 munud a sut. Aeth y cyfweliad yn dda a cawsom wybod y bore nesa ein bod wedi bod yn llwyddiannus, hwre! Roedd cadw’r cyfan yn gyfrinach tan y cyhoeddiad yn dipyn o her, roeddwn eisiau bwrw ymlaen gyda’r gwaith a gweiddi am Sibrwd.