Sibrwd

Cyfieithu, Cyfieithu, Cyfieithu

Ysgrifennwyd gan yn Uncategorized

Os ydych chi’n hoffi ieithoedd a’r theatr, efallai y byddwch chi, fel fi, yn cynhyrfu petaech yn cael eich gwahodd i fod yn rhan o Ŵyl Theatr ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop. Wedi dweud hynny, fel gallwch chi ddisgwyl, mae delio â chyfieithu ieithoedd lleiafrifol yn gallu bod yn anodd. Gwahoddwyd Theatr Genedlaethol Cymru i fynd â pherfformiad 15 munud i’r ŵyl ym Mautzen, yr Almaen. Pridd, sioe un dyn gan Aled Jones Williams (a berfformiwyd yn wreiddiol gan y cwmni yn 2013) oedd y dewis perffaith a dyma oedd…darllen mwy

0

Trio Sibrwd : cyfnod cyntaf o dreialu’r ‘ap’

Ysgrifennwyd gan yn Uncategorized

Wedi misoedd o ddatblygu’r dechnoleg, creu’r cynnwys creadigol, a’i osod o fewn y cynhyrchiad llwyfan, cafwyd cyfle i dreialu’r ‘ap’ theatr Sibrwd yn ystod taith Y Negesydd ym mis Mai eleni. Yn dilyn gwahoddiad agored, detholwyd pedwar grŵp o unigolion i dreialu Sibrwd mewn pedwar perfformiad byw o ddrama newydd Caryl Lewis. Yn syml iawn, pwrpas yr ap ‘Sibrwd’ yw caniatáu i bobl nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg i fedru mwynhau y theatr Gymraeg. Hyd yma mae uwchdeitlau a chardiau synopsis wedi cael eu defnyddio ond mae anfanteision i’r…darllen mwy

Cyfathrebu, Cyfathrebu, Cyfathrebu

Ysgrifennwyd gan yn Uncategorized

Weithiau mae syniad mor syml mae’n anodd credu nad oes neb wedi meddwl amdano. Ac weithiau pan ych chi yng nghanol rhywbeth mae’n anodd gwybod lle i ddechrau esbonio i’r rhai sydd ar y tu fâs. Dyma sut dw i’n teimlo am Sibrwd ar y funud. Ond efallai taw prif sialens marchnata llwyddiannus yw i gyfleu syniadau newydd sbon mewn ffordd clir a cŵl. Dwi i dal i chwerthin ar yr erthygl yn nghylchrawn dydd Sadwrn y Guardian adroddodd fod menyw yn y ‘70au wedi gweini ei ‘gellyg’ afocado gyda…darllen mwy

Gîciaeth

Ysgrifennwyd gan yn technoleg

Mae hi wedi bod fel ail Nadolig yn Galactig yn ddiweddar! Nadolig gîcaidd, hynny ydy. Yn gyntaf cyrhaeddodd ein hoffer Ruckus. Dydyn ni ddim eisiau wynebu unrhyw broblemau yn cysylltu gyda’r rhwydwaith gydag ap Sibrwd, ac fe sylweddolon ni’n gynnar iawn y byddai’n annoeth dibynnu ar gysylltiad diwifr theatrau – ac na fyddai wifi i’w gael mewn rhai lleoliadau – felly ry’n ni wedi sgopio technoleg “smart wifi” gan Ruckus. Bydd pob cynhyrchiad sy’n defnyddio Sibrwd yn elwa o ddau bwynt mynediad diwifr ZoneFlex wedi eu cysylltu i ZoneDirector i…darllen mwy

Diwrnod Sibrwd – Y Llwyfan

Ysgrifennwyd gan yn cyfarfodydd

Ro’n i’n teimlo bod angen tynnu Galactig a holl dîm Theatr Gen at ei gilydd er mwyn trafod y prosiect ac felly trefnwyd diwrnod Sibrwd yn Y Llwyfan. Roedd cydweithwyr wedi clywed am y prosiect ond roedd angen trafod sut fyddai Sibrwd yn cael ei weithredu. Yn ychwnaegol at staff Theatr Gen roeddwn hefyd wedi gwahodd Dyfan Jones, cyfansoddwr a chynllunydd sain profiadol wnaeth gynllunio sain Blodeuwedd. Roedd y sgwrs yma’n un bwysig gan bod Galactig yn wneuthurwyr platfformau digidol profiadol a ninnau yn wneuthurwyr theatr llwyddiannus ond roedd angen…darllen mwy

Y Cais a’r Camau Cyntaf

Ysgrifennwyd gan yn cyfarfodydd

Erbyn i mi ddod yn ôl o fy ngwyliau ddechrau mis Medi roedd Arwel a Lowri wedi bod yn trafod y syniad ymhellach gyda Galactig ac roedd pethau’n symud ymlaen ar gyflymder. Yn dilyn sgyrsiau Skype, crëodd Derick ddogfen glir oedd yn amlinellu holl bosibiliadau’r platfform a cynigodd Arwel yr enw ‘Sibrwd’. Es i ati i ymchwilio amcanion a bwriadau y rhai oedd yn ariannu’r gronfa sef NESTA, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau, er mwyn trosglwyddo’r hyn a wyddom am y tri yn rhan o…darllen mwy

0

Steddfod Genedlaethol Awst 2013

Ysgrifennwyd gan yn cyfarfodydd

Yn ystod Gorffennaf daeth ebost am gronfa newydd i ariannu ymchwil ‘syniad’ digidol er mwyn hybu cynulleidfa neu ar gyfer pwrpasau busnes. Bu tipyn o grafu pen yn swyddfa Theatr Gen ynglŷn â beth allwn ni ei gynnig fel syniad ar gyfer y gronfa. Penderfynwyd trefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid digidol posibl yn yr Eisteddfod. Hefyd ar bnawn braf yn yr Eisteddfod yn Ninbych, cafodd Arwel, Lowri a fi gyfarfod gyda Rob Ashelford – Rheolwr Rhaglen Cronfa Ymchwil a Datblygu Digidol Celfyddydau Cymru – er mwyn deall ychydig mwy am y…darllen mwy

0