Steddfod Genedlaethol Awst 2013

Ysgrifennwyd gan yn cyfarfodydd

Yn ystod Gorffennaf daeth ebost am gronfa newydd i ariannu ymchwil ‘syniad’ digidol er mwyn hybu cynulleidfa neu ar gyfer pwrpasau busnes. Bu tipyn o grafu pen yn swyddfa Theatr Gen ynglŷn â beth allwn ni ei gynnig fel syniad ar gyfer y gronfa. Penderfynwyd trefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid digidol posibl yn yr Eisteddfod. Hefyd ar bnawn braf yn yr Eisteddfod yn Ninbych, cafodd Arwel, Lowri a fi gyfarfod gyda Rob Ashelford – Rheolwr Rhaglen Cronfa Ymchwil a Datblygu Digidol Celfyddydau Cymru – er mwyn deall ychydig mwy am y gronfa a’r broses ymgeisio. Roedd yn glir i mi o’r cyfarfod bod rhaid i’r syniad fod yn arloesol i gael ei ystyried. [Tipyn mwy o grafu pen]

Un o’r cwmnïau digdiol roeddwn wedi trefnu cyfarfod â hwy oedd Galactig. Roedd hi’n fore eitha oer ar faes y ‘Steddfod, felly aethom i’r babell arddangos i gael sgwrs clyd a brofodd yn sgwrs arbennig. Er fy mod i’n gyfarwydd ag Anest a Derick o gwmni Galactig a’u gwaith – nhw ddatblygodd ein-tir.com ar gyfer S4C sef fersiwn deledu o’n cynhyrchiad ni Tir Sir Gâr – cawsom sgwrs i gyflwyno gwaith ein gilydd. Yn ystod y sgwrs, soniodd Derick am ei brofiad fel aelod o gynulleidfa Tir Sir Gâr. Albanwr sy’n dysgu Cymraeg yw Derick, ac er iddo fanteisio ar y cardiau oedd yn cynnig talfyriad Saesneg o’r golygfeydd yn ystod y perfformiad, esboniodd y byddai recordio lleisiau’r actorion yn syniad gwell. Byddai’r gynulleidfa ddi-Gymraeg felly’n medru clywed y cyfieithiad trwy defnyddio’u ffôn.

Esboniodd Arwel bod dysgwyr a’r di-Gymraeg wedi cael mynediad i’n cynhyrchiad Blodeuwedd drwy wrando ar dalfyriad wedi ei recordio gan yr actorion ar adegau arbennig yn ystod y perfformiad, ond roedd y cynhyrchiad yna’n unigryw gan bod y gynulleidfa gyfan yn gwrando ar y ddeialog ar glustffonau. Ategodd Derick bydde modd gwneud hyn drwy greu ap wedi’i lawrlwytho i ffôn. Roedd hi’n drafodaeth gyffrous, ond wrth gwrs bu’n rhaid gorffen y cyfarfod wrth i bawb orfod rhuthro i ddigwyddiadau, perfformiadau a chyfarfodydd. Roedd hi’n ‘Steddfod wedi’r cwbwl!

Y p’nawn hwnnw, eisteddais i, Arwel a Lowri dros baned yng Nghaffi’r Theatrau i drafod camau nesaf ein cais i’r gronfa. Roedd amser yn dynn. Roedd hi’n ddechrau mis Awst, gwyliau wedi’i drefnu gan y mwyafrif ohonom yn ogystal ag ymweliad i Ŵyl Caeredin ac roedd rhaid cyflwyno’r cais ddechrau mis Medi. Roeddwn i’n bendant taw’r syniad drafodwyd gyda Galactig oedd yn addas ar gyfer y gronfa. Doedden ni ddim yn teimlo fod ein syniadau eraill ar gyfer darpariaeth ddigidol y cwmni yn ddigon newydd nac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu ac ehangu’n cynulleidfa, fyddai hefyd o ddefnydd i’r sector theatr a chelfyddydau yn ehangach.

Dyma felly ganfod ein syniad arloesol.