Steddfod Genedlaethol Awst 2013
Yn ystod Gorffennaf daeth ebost am gronfa newydd i ariannu ymchwil ‘syniad’ digidol er mwyn hybu cynulleidfa neu ar gyfer pwrpasau busnes. Bu tipyn o grafu pen yn swyddfa Theatr Gen ynglŷn â beth allwn ni ei gynnig fel syniad ar gyfer y gronfa. Penderfynwyd trefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid digidol posibl yn yr Eisteddfod. Hefyd ar bnawn braf yn yr Eisteddfod yn Ninbych, cafodd Arwel, Lowri a fi gyfarfod gyda Rob Ashelford – Rheolwr Rhaglen Cronfa Ymchwil a Datblygu Digidol Celfyddydau Cymru – er mwyn deall ychydig mwy am y…darllen mwy