Trio Sibrwd : cyfnod cyntaf o dreialu’r ‘ap’
Wedi misoedd o ddatblygu’r dechnoleg, creu’r cynnwys creadigol, a’i osod o fewn y cynhyrchiad llwyfan, cafwyd cyfle i dreialu’r ‘ap’ theatr Sibrwd yn ystod taith Y Negesydd ym mis Mai eleni. Yn dilyn gwahoddiad agored, detholwyd pedwar grŵp o unigolion i dreialu Sibrwd mewn pedwar perfformiad byw o ddrama newydd Caryl Lewis.
Yn syml iawn, pwrpas yr ap ‘Sibrwd’ yw caniatáu i bobl nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg i fedru mwynhau y theatr Gymraeg. Hyd yma mae uwchdeitlau a chardiau synopsis wedi cael eu defnyddio ond mae anfanteision i’r naill a’r llall : er enghraifft, mae uwchdeitlau yn gallu tarfu ar brofiad y rhai sydd yn medru Cymraeg ac mae cardiau synopsis yn gallu sbwylio’r plot. Drwy ‘ap’ ar ffôn symudol, mae Sibrwd yn cynnig ffrwd dawel a chryno yn Saesneg o’r hyn sydd yn digwydd yn y ddeialog Gymraeg, a hynny heb darfu ar brofiad theatrig unrhyw un yn y gynulleidfa.
Felly, a weithiodd Sibrwd? A gafodd y pedwar grŵp brofiad theatrig boddhaol? A oedd y ddyfais yn gwneud y job?
Roedd Grŵp yn ddysgwyr lefel uchel – a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ddigon da i drafod y ap mewn grŵp ffocws yn Gymraeg. Roedd Grŵpiau 2 a 3 hefyd yn dysgu Cymraeg ond ar lefel is o rugledd, ac roedd Grŵp 4 yn ddi-gymraeg.
Yr ymateb gan bob grŵp oedd fod y teclyn yn gweithio iddyn nhw, ac i’w lefel penodol nhw o wybodaeth o’r Gymraeg. Darganfyddiad diddorol gan fod lefelau pedwar gr?p yn wahanol. Roedd un ffrwd felly yn siwtio pawb. Yn ail, fe welwyd fod rhai yn defnyddio’r ffrwd ‘testun’ [rhoi screenshot?] er mai ffrwd llais yw’r prif gysyniad y tu ôl i Sibrwd. Roedd y ffrwd testun yn arbennig o ddefnyddiol i un a oedd ychydig yn drwm ei chlyw. Roedd hon yn ystyriaeth newydd i ni fel y tim ymchwil yn ogystal â’r tim datblygu, ac felly mae defnydd ehangach eto i’r ddyfais.
Er fod y llais (a’r testun) wedi ei recordio o flaen llaw, roedd y ciwio yn digwydd yn fyw. Ymateb y grwpiau i’r amseru oedd fod angen gwneud yn siŵr fod digon o ffrwd Sibrwd ar y cychwyn, er mwyn cynnal ffydd yn y dechnoleg. Roedd hi’n bwysig hefyd nad oedd ffrwd Sibrwd yn tarfu ar fomentau dramatig a thawel ar y llwyfan. Ac yn ddiddorol, nid oedd barn bendant a ddylai’r Sibrwd yn Saesneg ddod cyn neu ar ôl y ddeialog yn Gymraeg.
Doeddwn i erioed wedi gweld pum perfformiad o’r un cynhyrchiad o’r blaen, a hynny mewn pedwar lleoliad gwahanol, ac fe gefais agoriad llygad i ymateb cynulleidfaoedd gwahanol i ddarn o ddrama. Un peth trawiadol iawn yn achos Y Negesydd oedd pa bryd yr oedd y gynulleidfa yn chwerthin. Er enghraifft, roedd mwy o chwerthin gan gynulleidfa Theatr Felinfach (yn ardal tafodiaith y ddrama) nac oedd gan gynulleidfa Galeri Caernarfon. Soniodd rai o ddefnyddwyr Sibrwd fod y gynulleidfa wedi chwerthin mewn rhai mannau ond nad oedd y jôc yn dod drwodd yn Sibrwd. Dyma her felly wrth ddatblygu Sibrwd ymhellach yn enwedig o ystyried fod cymaint o amrywiaeth yn gallu bod yn ymateb cynulleidfa fyw, yn enwedig o ran hiwmor.
Un pwynt diddorol arall nad aeth yn union fel i ni ragweld. Wrth ystyried y pwyslais sydd ar Gymraeg y Gogledd a Chymraeg y De yn benodol ym myd Cymraeg i Oedolion, ni chyfeiriodd yr un o’r bobl yn y grwpiau dysgwyr at fater y dafodiaith y ddrama benodol hon. Doedd dyfnder iaith Ceredigion ddim wedi eu taro o gwbl ‘It’s all Welsh to me’ oedd hi ar y cyfan. Oes yna wers bellach yma?
I’r dysgwyr hefyd, roedd mynd i’r theatr gyda Sibrwd fel ‘ffrind yn eich poced’ neu ‘rwyd ddiogelwch’ wedi gweithio, ond roedd mynd yno gyda’r dosbarth yn fodd o agor drws at brofiad newydd. Roedd camu i mewn i theatr – ble na ellwch chi ddiffodd y swîts neu gerdded oddi yno – yn fwy cysurus gyda chwmni. Profiad cymunedol ydy gweld theatr yn y bôn, ynte?
Fe fydd y cam nesaf o dreialu yn digwydd gyda chynhyrchiad Dyled Eileen yn yr Eisteddfod. Y tro hwn, fe fydd cyd-destun a chyfeiriadaeth y ddrama yn faes diddorol i’w ymchwilio.
Wrth i’r dechnoleg gael ei phrofi eto dros y misoedd nesaf yn sgil y treialon hyn, y cwestiwn mawr wedyn fydd, sut mae newid diwylliant er mwyn i bobl sydd yn llai rhugl eu Cymraeg, neu yn ddi-gymraeg, fedru camu i mewn i’r theatr Gymraeg. Fe fydd yn rhaid i gwmnïau theatr, theatrau a venues Cymru feddwl o ddifrif ynglŷn â sut y mae eu strategaethau marchnata nhw yn gallu mynd â’r neges at y cynulleidfaoedd newydd yma, fod y dechnoleg bellach ar gael, i agor y theatr Gymraeg i unrhyw un.