Cyfieithu, Cyfieithu, Cyfieithu
Os ydych chi’n hoffi ieithoedd a’r theatr, efallai y byddwch chi, fel fi, yn cynhyrfu petaech yn cael eich gwahodd i fod yn rhan o Ŵyl Theatr ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop. Wedi dweud hynny, fel gallwch chi ddisgwyl, mae delio â chyfieithu ieithoedd lleiafrifol yn gallu bod yn anodd.
Gwahoddwyd Theatr Genedlaethol Cymru i fynd â pherfformiad 15 munud i’r ŵyl ym Mautzen, yr Almaen. Pridd, sioe un dyn gan Aled Jones Williams (a berfformiwyd yn wreiddiol gan y cwmni yn 2013) oedd y dewis perffaith a dyma oedd y cyfle perffaith i ddefnyddio Sibrwd er mwyn gwneud y perfformiad yn hygyrch i gynulleidfa Ewropeaidd yn yr ŵyl ac i gael adborth pellach am yr ap. Y cam cyntaf felly oedd dewis darn o’r ddrama a’i wneud yn barod ar gyfer Sibrwd (crynodeb creadigol). Roedd hyn yn cynnwys siaradwr Cymraeg/Saesneg yn creu crynodeb yn Saesneg. Yna (a dyma’r darn anodd), roedd angen i ni ddod o hyd i rywun a allai gyfieithu’r Saesneg i’r Almaeneg ac yn olaf, rhywun i gyfieithu’r Almaeneg i’r Sorbeg (iaith leiafrifol o ddwyrain yr Almaen). Ac yna, wrth gwrs, actorion i recordio’r lleisiau.
Mae Pridd wedi’i wreiddio yng Nghymru, ac byddai yn gyffredinol yn cael ei ddeall orau gan gynulleidfaoedd Cymreig – heb sôn ei fod weithiau yn neidio o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn un golygfa – roedd angen i ni felly ffeindio rhywun oedd yn deall cyd-destun Cymraeg y ddrama ac yn gallu cyfleu hyn i gynulleidfa Ewropeaidd. Roedd hyn yn hynod o anodd a cheisiom ni bopeth ond rhoi’r gorau iddi. Ond fel sy’n digwydd yn aml mewn diwylliannau lleiafrifol, soniwch chi wrth gydweithiwr am eich problem, a’r cyfan sydd ei angen yw galwad i rywun sy’n nabod rywun sy’n siarad Saesneg, Almaeneg a Sorbeg!
Y cam nesaf wedyn yw i recordio’r crynodebau, ymarfer y darn a hedfan off i’r Almaen i ddangos i’r byd be mae Sibrwd yn gallu gwneud!