Gîciaeth

Ysgrifennwyd gan yn technoleg

Mae hi wedi bod fel ail Nadolig yn Galactig yn ddiweddar! Nadolig gîcaidd, hynny ydy.
Yn gyntaf cyrhaeddodd ein hoffer Ruckus. Dydyn ni ddim eisiau wynebu unrhyw broblemau yn cysylltu gyda’r rhwydwaith gydag ap Sibrwd, ac fe sylweddolon ni’n gynnar iawn y byddai’n annoeth dibynnu ar gysylltiad diwifr theatrau – ac na fyddai wifi i’w gael mewn rhai lleoliadau – felly ry’n ni wedi sgopio technoleg “smart wifi” gan Ruckus.
Bydd pob cynhyrchiad sy’n defnyddio Sibrwd yn elwa o ddau bwynt mynediad diwifr ZoneFlex wedi eu cysylltu i ZoneDirector i greu SmartMesh WLAN i sicrhau y bydd y cysylltiad diwifr yn ddibynadwy. Mae gennym hefyd bwynt mynediad awyr agored ar gyfer dramâu ar safle penodol. Gellir defnyddio hwn hefyd mewn lleoliadau mawr neu pan fo nifer mawr o ddefnyddwyr eisiau defnyddio’r feddalwedd.
Mae bocs o iPods Touch hefyd wedi cyrraedd, ac wrth i ni adeiladu’r ap byddwn yn llwytho fersiynau ohono ar yr iPods ac yn profi’r ap gydag aelodau o’r gynulleidfa mewn cynyrchiadau dros y misoedd nesaf.
Mwy o wybodaeth i ddod ar y blog wrth i ni osod a phrofi’r cit newydd.