Diwrnod Sibrwd – Y Llwyfan
Ro’n i’n teimlo bod angen tynnu Galactig a holl dîm Theatr Gen at ei gilydd er mwyn trafod y prosiect ac felly trefnwyd diwrnod Sibrwd yn Y Llwyfan. Roedd cydweithwyr wedi clywed am y prosiect ond roedd angen trafod sut fyddai Sibrwd yn cael ei weithredu. Yn ychwnaegol at staff Theatr Gen roeddwn hefyd wedi gwahodd Dyfan Jones, cyfansoddwr a chynllunydd sain profiadol wnaeth gynllunio sain Blodeuwedd. Roedd y sgwrs yma’n un bwysig gan bod Galactig yn wneuthurwyr platfformau digidol profiadol a ninnau yn wneuthurwyr theatr llwyddiannus ond roedd angen i ni ddeall gofynion cyfryngau ein gilydd. Tra bod un tîm yn trafod y dechnoleg roeddwn i a thîm arall yn trafod sut byddwn ni’n mynd ati i greu a gweinyddu’r grwpiau ffocws wrth i ni dreialu’r platfform. Bydd ein partner ymchwil, sef Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth oedd methu bod yn bresennol, hefyd yn ein cynorthwyo gyda’r grwpiau ffocws. Gwnaethom hefyd drafod y camau ar gyfer marchnata – y blog yma yn un ohoynt! Er mor anghenrheidiol oedd y diwrnod yma, bu hefyd yn dipyn o her i bawb. Ambell waith mae’n rhaid i brosiect esblygu a chwythu’n fawr gyda phawb yn cynnig syniadau a sylwadau cyn dychwelyd at wraidd y prosiect. Bu’n dda cael mewnbwn pawb, ond rhaid cofio taw ar gyfer ymchwil a datblygu cawsom ein ariannu. Does dim rhaid i ni gyflwyno platfform gorffenedig ar ddiwedd y cyfnod er taw dyna yw gobaith pawb. I NESTA a’r arianwyr eraill, y cyfnod ymchwil ei hun sydd o ddiddordeb mawr. Gwreiddyn Sibrwd, yn enwedig yn ystod y cyfnod ymchwil , yw ceisio darganfod ffordd lwyddiannus, cost effeithlon sy’n cyd-fynd gyda’r weledigaeth artistig o sicrhau mynediad i ddysgwyr a’r di-Gymraeg i waith Theatr Gen. Mae’n brosiect hynod gyffrous, y cam nesa i mi yw cytuno gyda Elin Haf beth yw’r cynllun ymchwil a chael gwaith papur yn ei le.